2 Kings 25

Jerwsalem yn cael ei choncro

(2 Cronicl 36:13-21; Jeremeia 52:3b-11)

1Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin
25:1 degfed diwrnod … brenin Yr union ddyddiad fyddai Ionawr 14, 588 CC
. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.
2Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.) 3Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis
25:3 pedwerydd mis Yr union ddyddiad fyddai Gorffennaf 18, 586 CC
y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.
4Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen
25:4 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
(Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)
5Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. 6Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla. 7Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.

Y deml yn cael ei dinistrio

(Jeremeia 52:12-27)

8Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) 9Dyma fe'n rhoi teml yr Arglwydd, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. 10Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw i lawr y waliau o gwmpas Jerwsalem. 11A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl oedd wedi eu gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. 12Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl.

13Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw "Y Môr". A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. 14Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. 15Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a'r dysglau – popeth oedd wedi ei wneud o aur pur neu arian. 16Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a'r trolïau oedd Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. 17Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.

18Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. 19Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. 20A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla, 21a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.

Gedaleia yn rheoli Jwda

(Jeremeia 40:7-9; 41:1-3)

22Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi eu gadael ar ôl yng ngwlad Jwda.

23Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a'u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad, dyma nhw'n mynd i'w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr. 24A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.”

25Ond yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o'i ddynion a lladd Gedaleia a'r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e. 26Yna dyma'r boblogaeth i gyd (o'r ifancaf i'r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i'r Aifft am eu bod ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud.

Y brenin Jehoiachin yn y gaethglud

(Jeremeia 52:31-34)

27Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach
25:27 Efil-merodach Mab Nebwchadnesar oedd yn teyrnasu ar Babilon o 562 i 560 CC
yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis
25:27 deuddegfed mis Adar, sef deuddegfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Chwefror i ganol Mawrth.
y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar.
28Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. 29Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, 30ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.

Copyright information for CYM